Merched Llanbadarn

Oddi ar Wicidestun

gan Dafydd ap Gwilym

Plygu rhag llid yr ydwyf –
pla ar holl ferched y plwyf!
am na chefais, drais drawsoed,
onaddun yr un erioed,
na morwyn fwyn ofynaig
na merch fach, na gwrach, na gwraig
py rusiant, py ddireidi,
py fethiant, na fynnant fi?


Py ddrwg i riain fewiael
yng nghoed twylldew fy nghael?
Nid oedd gywilydd iddi
yng ngwal dail fy ngweled i
ni bu amser na charwn,
ni bu mor lud hud a hwn
anad gwyr annwyd Garwy-
yn y dydd ai un a dwy
ac er hynny nid oedd nes
ym gael un no’m gelynes
ni bu Sul yn Llanbadarn
na bewn, ac eraill ai barn
a'm wyneb at y ferch goeth
a'm gwegil at Dduw gwiwgoeth.